Skip to content
Home

Cymru

Mae amaethyddiaeth yng Nghymru wedi'i seilio'n helaeth ar dda byw a chynhyrchion da byw, gyda sector defaid mawr; llawer ohono yn yr Ardaloedd Llai Ffafriol sy'n ffurfio rhan helaeth o Gymru. Mae gan Gymru nifer sylweddol o ffermydd llaeth, yn enwedig yn ei siroedd de-orllewinol, a buches gig eidion fawr. Er bod y sectorau âr a garddwriaethol yn fach, tyfir tatws a chnydau tebyg, yn enwedig yn Sir Benfro.

Yn nodweddiadol, ffermydd teuluol bach ydynt, ac mae'r rhai sydd mewn ardaloedd yng ngorllewin a gogledd-orllewin Cymru wedi bod yn gadarnle i'r Gymraeg. Gyda thenantiaid ar tua 30 y cant o dir ffermio, a'r un gyfraith tir â Lloegr, mae datganoli bellach wedi trosglwyddo cyfraith tenantiaeth i Gymru. Hyd yn hyn, ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r statudau a etifeddwyd wrth ddatganoli.

Mae Cymru yn cynllunio, ar ôl Brecsit, i ddisodli Cynllun Taliad Sylfaenol yr UE o daliadau ardal uniongyrchol i ffermwyr. Yn ei le, y bwriad yw cyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn seiliedig ar gontractau sy'n defnyddio arian cyhoeddus i brynu buddion amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus eraill o reoli tir, ac i wella cynhyrchiant.

CAAV yng Nghymru

Gyda thair cymdeithas leol CAAV yn rhychwantu Cymru benbaladr, parodd CAAV ddatganoli deddfwriaethol i Gymru gyda Phwyllgor Cymru ar gyfer busnes Cymru, gan ystyried ymatebion i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru a materion i aelodau yng Nghymru. Mae cadeirydd y Pwyllgor yn aelod o Gyngor CAAV yn awtomatig, ac yn adrodd i bob cyfarfod ar faterion Cymreig.

Cynhelir cynhadledd briffio ar gyfer gweithwyr proffesiynol o Gymru yn Llandrindod bob mis Chwefror i drafod materion amserol a materion sy’n datblygu.

Wrth i'r Senedd adolygu deddfwriaeth ar faterion o denantiaethau amaethyddol i gyfraith cynllunio, mae Pwyllgor Cymru yn eu hystyried ac mae Ysgrifenyddiaeth CAAV yn briffio aelodau ar y wefan a thrwy adrannau Cymru yn y Llythyr Newyddion a'r Llawlyfr.

Yn ogystal â chyswllt rheolaidd â Llywodraeth Cymru a chyrff ffermio a phroffesiynol, mae Llywydd Cenedlaethol CAAV yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn i drafod materion gyda chyrff eraill.

Cyhoeddiadau

Gyda deddfwriaeth sy’n benodol i Gymru bellach wedi'i deddfu ar denantiaethau preswyl, paratôdd a chyhoeddodd CAAV ei gyhoeddiad, The Letting and Management of Residential Property in Wales.

Ymdrinnir â rheoli datblygu ar gyfer tai gwledig yng nghyhoeddiad CAAV, Rural Workers’ Dwellings – Planning Control in the United Kingdom.

Mae cytundebau tenantiaeth amaethyddol enghreifftiol a thrwydded pori yn cael eu drafftio at ddefnydd aelodau yng Nghymru.

O dan ddeddfwriaeth Cymru, gall Llywodraeth Cymru ofyn i CAAV enwebu priswyr ar gyfer prisiadau TB pan mae anghydfod yn eu cylch.

Sefydliad CAAV

Cadeirydd ac Ysgrifennydd Pwyllgor CAAV Cymru yw:

  • Cadeirydd: Richard Williams
  • Ysgrifennydd: Gary Owen.

Cymdeithasau lleol CAAV yng Nghymru yw:

  • De Cymru a Sir Fynwy
  • Gogledd Cymru
  • Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn

tra bod gwaith amaethyddol a phroffesiynol trawsffiniol yn golygu bod rhai aelodau o Gymru yn perthyn i gymdeithasau Henffordd a Chaerwrangon neu Swydd Gaer. Mae pob un yn cynnal ei ddigwyddiadau ei hun ar gyfer aelodau, gan gynnwys cyfarfod blynyddol a chyfarfodydd proffesiynol.

Mae Pwyllgor Cymru yn cynnal tiwtorial blynyddol yn Aberystwyth tra bod Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn ffurfio un ganolfan arholi.

Mae Llywyddion cenedlaethol CAAV o Gymru yn cynnwys:

  • Syr Illtyd Thomas o Gaerdydd, y cyn Arglwydd Faer a roddodd ei gem Lywyddol gyntaf i CAAV ac a ysgogodd fabwysiadu ei harwyddair - Gwnewch yr hyn sy'n iawn beth bynnag a ddaw
  • Trevor Davies o Bontllanfraith
  • John Rennie o Drefynwy
  • Bob Jones o Gaerfyrddin
  • Andrew Thomas o’r Bont-faen